Welsh Development Officer
Learner and Employer facing
Create Account
Closing Date: 19/08/2020
Location/Division: Tredomen Gateway
Mae Grwp Hyfforddi Educ8, sy’n cynnwys Educ8 Limited ac ISA Training, wrthi yn recriwtio am Swyddog Datblygu’r Gymraeg i ymuno â’r sefydliad.
Os hoffech weithio gyda chriw gwych sydd wedi ymddangos yn gyson yn rhestr y Times o’r 100 Cwmni Bach Gorau i Weithio iddyn nhw, yna byddem wrth ein bodd yn clywed wrthych chi. Rydym yn cynnig buddion rhagorol, ethos sy'n cael ei lywio gan werthoedd, ac yn anad dim, lle gwych i weithio.
Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu’r Gymraeg
Lleoliad: Cymru
Oriau gwaith: 8.30am – 4:30pm. Yr oriau safonol fydd 37.5 yr wythnos ond weithiau bydd natur y rôl yn golygu gweithio mwy na'r oriau hyn i sicrhau bod yr amcanion craidd yn cael eu cyflawni. Gall hyn gynnwys gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Cyflog: £24,000.00 - £26,000.00 y flwyddyn
Pwrpas y Swydd/Gwerthoedd y Cwmni: Fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg, byddwch yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, monitro ac adolygu Cynllun Datblygu’r Gymraeg ar gyfer yr Iaith Gymraeg a Diwylliant ar draws Grwp Educ8. Gan weithio gyda staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, byddwch yn sicrhau bod y Grwp yn bodloni targedau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg ac i sicrhau bod y diwylliant Cymraeg wedi’i wreiddio’n llawn o fewn y cwricwlwm. Byddwch hefyd yn gyfrifol am wasanaethau cyfieithu ar gyfer cynnwys y cwricwlwm ac am Hyfforddwyr, yn ôl yr angen.
Diogelu
Mae Grwp Educ8 wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl, ac yn disgwyl i'r holl weithwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Educ8 Training Group, consisting of Educ8 Limited and ISA Training, are currently recruiting for a Welsh Development Officer to join the organisation.
If you'd like to work with Gr8 people who have consistently featured in the Times Top 100 Small Companies to Work for, then we'd love to hear from you. We offer excellent benefits, a values driven ethos but most of all a Gr8 place to work.
Job Title: Welsh Development Officer
Location: Wales
Hours of work: 8.30am – 4:30pm. The standard hours will be 37.5 per week but the nature of the role will, on occasions, require working in excess of these hours to ensure core objectives are achieved. This may include evening and weekend work.
Salary: £24,000.00 - £26,000.00 per annum
Purpose of Job/Company Values: As Welsh Development Officer, you will be responsible for planning, implementing, monitoring and reviewing the Welsh Development plan for Welsh Language and Culture across the Educ8 Group. Working with staff, learners and other stakeholders, you will ensure that the Group meet Welsh Government targets for promoting and delivering Welsh language learning and ensure Welsh culture is fully embedded into curriculum. You will also assume responsibility for translation services both to curriculum content and for Trainer Coaches, as required.
Safeguarding
Educ8 Group is committed to Safeguarding and promoting the welfare of children, young people and adults at risk, and expect all employees to share this commitment.
Diversity Statement
Educ8 Group is an equal opportunity employer. We celebrate diversity and are committed to creating an inclusive environment for all employees.